Cymerwch Ran: Strategaeth Gyfranogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2022-2027

Cymerwch Ran: Strategaeth Gyfranogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2022-2027

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Fe wnaethom ymgynghori â chi ac ailymweld â’n strategaeth gyfranogi ddiwethaf yn 2018. Mae’n amser ailymweld â’r strategaeth a’i ddiwygio er mwyn adlewyrchu lle rydym ni rŵan a hoffem i chi gymryd rhan i’n helpu ni i siapio’r darn hwn o waith.

Mae Cyngor Wrecsam wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella cyfranogiad ac ymgysylltiad â’r cyhoedd yn y blynyddoedd diwethaf, ac wedi cael ei ganmol gan Swyddfa Archwilio Cymru am ei waith yn y maes hwn. Dyma rai o’r gwelliannau a’r cyflawniadau:   

  • Datblygu dull mwy di-dor i’n gweithgareddau cyfranogi, gan gynnwys gwelliannau i’n porth ymgynghori Eich Llais Wrecsam er mwyn ei gwneud yn haws i’w ddefnyddio, a gwella ansawdd a phrydlondeb yr adborth i chi ar weithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu.
  • Cynnal ymgysylltiad gyda’n cymunedau dros gyfnod pandemig Covid-19 ac adfywio ymgysylltiad wrth i ni ddod allan o’r pandemig. (e.e. yn 2019/20 cynhaliodd CBSW 42 o ymgynghoriadau ar ‘Eich Llais Wrecsam’ - gydag oddeutu 12,241 o ymatebion wedi’u derbyn. Yn 2020/21 cynhaliom 38 o ymgynghoriadau ar-lein, gydag oddeutu 6,859 o ymatebion wedi’u derbyn. Yn 2021/22 cynhaliom 54 o ymgynghoriadau ar-lein gydag oddeutu 10,203 o ymatebion wedi’u derbyn)
  • Gwella ymgysylltiad gyda phobl sydd â nodweddion a ddiogelir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn unol â’n hymrwymiad i ‘leihau anghydraddoldebau mewn cynrychiolaeth a llais’.

Gwyddwn ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y maes hwn, fodd bynnag gallwn wneud mwy, i ‘gyfranogi’n dda’, gyda’n gilydd, ac rydym eisiau gweithio gyda chi i ddatblygu’r cynlluniau hyn. 

Os hoffech lawrlwytho copi llawn o’n strategaeth ddrafft, cliciwch ar y ddolen: Lawrlwytho'r Strategaeth Gyfranogi ddrafft 2022-27.

Mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i wrando a gweithio gyda phobl Wrecsam. Mae cyfranogiad da yn golygu fod pawb yn ein cymuned yn teimlo y gallent ymuno â’r drafodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu dylunio a’u darparu; ac i helpu llunio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gobeithiwn, drwy gymryd y dull hwn bydd dyfodol gwasanaethau yn Wrecsam yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl Wrecsam a bod pobl yn teimlo y gallent ddweud eu barn a gweithio gyda ni i wireddu pethau gyda’n gilydd.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Sut fyddem ni yn annog cyfranogiad gyda phawb

Bydd ein Strategaeth Ymgysylltu yn canolbwyntio ar dri maes ymgysylltu: Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydgynhyrchu.

Mae’n bwysig nodi y defnyddir termau eraill mewn rhai meysydd, yn enwedig ym myd plant a phobl ifanc, lle mae’r term ‘cyfranogiad’ yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin.  Byddwn yn ystyried bod y termau ‘cyfranogiad’ a ‘chynnwys’ yn golygu’r un peth at ddibenion y strategaeth hon.    

Mae’r gyfraith hefyd yn nodi bod yn rhaid i ni wneud hyn; ac yn rhoi’r hawl i chi ddisgwyl i ni ystyried sut rydym yn cael pobl i gyfranogi a chydweithio. 

Gweler y crynodeb o ddeddfwriaeth allweddol ynghlwm. 

Mae gennym hefyd gynlluniau lleol sydd wedi ymrwymo i gael mwy o bobl i gyfranogi; amlygwyd mewn nifer o leoedd gan gynnwys:

  • Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam – sy’n nodi bod angen i gymunedau a sefydliadau’r sector cyhoeddus siarad a gwrando ar ei gilydd er mwyn gwella lles yn Wrecsam.
  • Ein Cynllun y Cyngor  - rydym wedi ymrwymo i gynnwys pobl leol yn sut rydym yn cynllunio, blaenoriaethu a darparu gwasanaethau. 
  • Strategaeth Gyfranogi Cyhoeddus - Mae’r strategaeth yn nodi sut bydd y cyngor yn cydymffurfio â’r dyletswyddau newydd yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) er mwyn hyrwyddo ac annog cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau yn y Cyngor.  
  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol CBSW -  Mae’r cynllun yn nodi ymrwymiad i wella cydraddoldeb mewn cynrychiolaeth ac amrywiaeth llais, rydym eisiau i fwy o bobl gyfranogi sydd efallai heb wneud yn y gorffennol.
  • Strategaeth Gyfranogi Plant a Phobl Ifanc - yn gosod sut mae’r Cyngor yn mewnosod ei ymrwymiad hirdymor i gyfranogiad gyda phlant a phobl ifanc mewn prosesau gwneud penderfyniad sefydliadau Statudol a Thrydydd Sector drwy ymgynghoriad, ymgysylltiad ac arsylwi proffesiynol.

Yn ogystal â’r cynlluniau a nodwyd uchod, rydym yn cynllunio bob gwasanaeth ac yn annog pobl i gyfranogi ar draws bob adran yn y Cyngor. 

Beth ddaeth i’r amlwg: 

Ar ôl drafftio ein Strategaeth Gyfranogi; cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus, er mwyn cyflwyno ein Strategaeth Gyfranogi newydd i aelodau’r gymuned a’n partneriaid i geisio eu hadborth. 

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

Mae hyn wedi’n galluogi i adolygu ein strategaeth yn unol â’r adborth yr ydym wedi’i dderbyn, er mwyn i ni fod yn hyderus fod ein Strategaeth Gyfranogi newydd yn adlewyrchu safbwyntiau ein budd-ddeiliaid, gyda’r gobaith y byddant yn cydweithio gyda ni yn y dyfodol ar ein taith gyfranogi i lunio gwasanaethau gyda’n gilydd.

Dyddiad Cychwyn y Project 25 Gorffennaf 2022
Dyddiad Cau'r Prosiect 04 Hydref 2022

Cyswllt

Cyfeiriad llawn Cyswllt Ebost
Guildhall
Wrexham
LL11 1AR
Elaine Smith