Ymgynghoriad ar Ysgol Gynradd Newydd Nine Acre

Ymgynghoriad ar Ysgol Gynradd Newydd Nine Acre

Pam ydyn ni`n gwneud hyn?: 

Cais i adeiladu ysgol gynradd newydd ar dir oddi ar Ffordd Caer Wrecsam

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i'r gymuned ddysgu am y cynigion ar gyfer ysgol gynradd newydd yn eich ardal chi cyn cyflwyno Cais Cynllunio.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dymuno ceisio barn partïon â diddordeb ynghylch y cynnig i adeiladu ysgol gynradd newydd. Mae'n bwysig bod barn budd-ddeiliaid yn cael ei hystyried cyn i gais cynllunio gael ei wneud.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi gwybodaeth y bydd angen i ymgyngoreion ei hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddiol fel y nodir yn Erthygl 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygiad) 2016, a Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) newidiadau i weithdrefnau ymgynghori cyn ymgeisio, ymgynghori â chnynghorau cymuned a Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol ymgynghoriad cyngor cymunedol a thref.

Mae’r cyfnod ymgynghori ffurfiol yn cychwyn ar 20 Gorffennaf 2020 ac yn dod i ben ar 16 Awst 2020.

Rydym felly yn ymgynghori gyda’r gymuned, defnyddwyr arfaethedig a budd-ddeiliaid perthnasol eraill. 

Byddwn yn defnyddio'r rhyngrwyd i gasglu barn pobl. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau a rhoi eich barn drwy anfon e-bost at nineacreconsultation@wrexham.gov.uk i roi eich ymateb yn ysgrifenedig. Fel arall, gall y rhai nad ydynt ar-lein ofyn am gopïau papur o'r dogfennau trwy e-bostio wrexham@lawray.co.uk neu drwy ffônio 01978 357 887.

Sylwch y bydd unrhyw ymateb i'r ymgynghoriad a ddarperir eisoes yn cael eu cynnwys.

Beth ydym ni eisiau ei wybod?: 

Byddwn yn defnyddio'r rhyngrwyd i gasglu barn pobl. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau a rhoi eich barn drwy anfon e-bost at nineacreconsultation@wrexham.gov.uk i roi eich ymateb yn ysgrifenedig, neu drwy anfon gohebiaeth i Adran Tai a’r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU, am sylw Ymgynghoriad Nine Acre.. Fel arall, gall y rhai nad ydynt ar-lein ofyn am gopïau papur o'r dogfennau trwy e-bostio wrexham@lawray.co.uk neu drwy ffônio 01978 357 887

Beth ddaeth i’r amlwg: 

MAE ADRODDIAD YMGYNGHORI CYN YMGEISIO WEDI CAEL EI LUNIO, YN UNOL Â GOFYNION GORCHYMYN CYNLLUNIO TREF A GWLAD (GWEITHDREFN RHEOLI DATBLYGU) 2012 (FEL Y’I DIWYGIWYD)

MAE’R ADRODDIAD HWN YN CYNNWYS MANYLION PERSONOL NAD ALL EU CYHOEDDI AR-LEIN.

MAE COPI LLAWN O’R ADRODDIAD AR GAEL AR Y FFEIL CYNLLUNIO YN YSTOD ORIAU SWYDDFA DRWY DREFNU APWYNTIAD. CYSYLLTWCH Â’R ADRAN GYNLLUNIO: 01978 298989.  Ref P/2021/0680

https://www.wrecsam.gov.uk 

 

Pa wahaniaeth mae e wedi neud?: 

MAE ADRODDIAD YMGYNGHORI CYN YMGEISIO WEDI CAEL EI LUNIO, YN UNOL Â GOFYNION GORCHYMYN CYNLLUNIO TREF A GWLAD (GWEITHDREFN RHEOLI DATBLYGU) 2012 (FEL Y’I DIWYGIWYD)

MAE’R ADRODDIAD HWN YN CYNNWYS MANYLION PERSONOL NAD ALL EU CYHOEDDI AR-LEIN.

MAE COPI LLAWN O’R ADRODDIAD AR GAEL AR Y FFEIL CYNLLUNIO YN YSTOD ORIAU SWYDDFA DRWY DREFNU APWYNTIAD. CYSYLLTWCH Â’R ADRAN GYNLLUNIO: 01978 298989.  Ref P/2021/0680

https://www.wrecsam.gov.uk

Dyddiad Cychwyn y Project 20 Gorffennaf 2020
Dyddiad Cau'r Prosiect 16 Awst 2020