Diogelu Data

Bydd y wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn cael ei thrin yn gyfrinachol, yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol Y DU. Bydd unrhyw ddata sy’n cael ei ddarparu gennych chi’n cael ei brosesu yn unol â gofynion y Ddeddf Diogelu Data ac wrth ei ddarparu, rydych chi’n rhoi caniatâd i’r Cyngor brosesu’r data at y diben y mae’n cael ei ddarparu.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ond yn cael ei defnyddio gan y Cyngor neu ei datgelu i eraill at ddiben sy’n cael ei ganiatáu’n gyfreithiol.

Rydym yn defnyddio gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu i ofyn i chi leisio eich barn ar ystod eang o bynciau. Rydym eisiau i bawb yn ein cymuned gael y cyfle i ymuno â’r drafodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu dylunio a’u darparu; ac i helpu gyda siapio dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Bydd eich barn yn cael ei defnyddio i nodi’r ymgynghoriad hwn. Efallai byddwn yn rhannu adborth dienw yn y dyfodol i helpu gyda siapio ymgynghoriadau a gwasanaethau eraill gan y Cyngor a phartneriaid, er mwyn nodi’r gwaith rydym yn ei ddarparu gyda’n gilydd. Efallai bydd hyn yn ein helpu i osgoi gofyn yr un cwestiynau, neu gwestiynau tebyg sawl gwaith. Rydym yn gobeithio wrth ddefnyddio’r dull hwn o weithio, bydd dyfodol gwasanaethau yn Wrecsam yn canolbwyntio fwy ar beth sydd o bwys i bobl Wrecsam.

Nesaf